Y Prosiect Gwirionedd
Mae ein Prosiect Gwirionedd yn cynnig cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr rannu eu profiad a chael eu clywed a'u cydnabod yn barchus. Trwy wneud hynny, byddant yn ein helpu i ddeall effaith cam-drin yn y tymor hir yn well. Bydd eu cyfraniad yn ein helpu i wneud argymhellion ynghylch anghenion cymorth, yn ogystal â herio ein rhagdybiaethau o gam-drin plant yn rhywiol.